Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 1 Mawrth 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
13:30 - 14:25 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Dafydd Elis-Thomas (Cadeirydd) Mick Antoniw Rebecca Evans Vaughan Gething Llyr Huws Gruffydd Julie James William Powell David Rees Antoinette Sandbach |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Ewan Campbell-Lendrum, Infinis Dr Aonghus McNabola, Hydro-BPT project, Trinity College Dublin Richard Rees, North Wales Hydro PowerYnni Dŵr Gogledd Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Alun Davidson (Clerc) Catherine Hunt (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Russell George. Nid oedd unrhyw ddirprwyon.
2. Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru - tystiolaeth ar ynni dwr
2.1 Atebodd y tystion gwestiynau aelodau’r Pwyllgor ynghylch ynni dŵr fel rhan o’r ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru.
2.2 Cytunodd Mr Rees a Mr Campbell-Lendrum i ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor ynghylch:
· Yr arfer o orfod cael caniatâd ar gyfer trwyddedu gan Asiantaeth yr Amgylchedd cyn i gais cynllunio gael ei ddilysu, gan gynnwys cymhariaeth rhwng ei profiad nhw o’r broses a ddilynir gan Barc Cenedlaethol Eryri a’r broses a ddilynir gan awdurdodau lleol cyfagos.
· Enghreifftiau o arfer gorau yn y diwydiant ynni dŵr mewn mannau eraill yn y DU.
· Y safonau gwahanol ar gyfer rhannu llif yng Nghymru o’u cymharu â’r Alban a Lloegr.
· Proffidioldeb cymharol cynllun tebyg yng Nghymru o’i gymharu â’r Alban.
2.4 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Asiantaeth yr Amgylchedd i geisio eglurder ynghylch y polisi rhannu llif yng Nghymru a materion cysylltiedig.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.